R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Gwyn Price (Islwyn): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o ran sicrhau cyllid teg i Gymru? OAQ(4)0474(FIN)
2. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymeradwyo Cytundeb Partneriaeth y DU yn ddiweddar? OAQ(4)0480(FIN)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y dyraniad cyllidebol i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0473(FIN)
4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bwysigrwydd cronfeydd strwythurol yr UE i gymoedd de Cymru? OAQ(4)0476(FIN)
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Cyfoeth Naturiol?OAQ(4)0483(FIN)
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):Pam y penderfynwyd y gallai'r rhai sy'n cael cyllid buddsoddi i arbed ohirio gwneud unrhyw ad-daliad yn ystod y flwyddyn ar ôl y benthyciad? OAQ(4)0469(FIN)
7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y buddion y mae cymunedau gwledig Cymru yn eu cael o gronfeydd strwythurol yr UE? OAQ(4)0482(FIN)
8. Sandy Mewies (Delyn): Pa egwyddorion y bydd y Gweinidog yn eu mabwysiadu wrth ddatblygu polisi treth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0478(FIN)
9. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad diweddar o £2 biliwn o gyllid yr UE ar gyfer Cymru? OAQ(4)0479(FIN)
10. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch rôl Cymru yn y gwaith o ddatblygu trefniadau ariannu yn y DU? OAQ(4)0477(FIN)
11. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i baratoi ar gyfer datganoli treth stamp a threth tirlenwi i Gymru? OAQ(4)0470(FIN)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y dyraniad cyllidebol cyffredinol i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0468(FIN)
13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd):Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi’i wneud o ran sicrhau cyllid teg i Gymru? OAQ(4)0475(FIN)
14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa flaenoriaethau a gafodd eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Addysg a Sgiliau? OAQ(4)0467(FIN)
15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr cabinet ynglŷn â goblygiadau poblogaeth sy'n heneiddio i gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0481(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Elin Jones (Ceredigion): A yw'r Gweinidog wedi gwneud asesiad o effaith y twf yn nifer staff Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar gyllid sydd heb ei neilltuo ar gyfer awdurdodau'r heddlu? OAQ(4)0482(PS)W
2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y gyllideb ddrafft ar lywodraeth leol? OAQ(4)0484(PS)W
3. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfiawnder ieuenctid? OAQ(4)0488(PS)
4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddiswyddiadau o fewn llywodraeth leol? OAQ(4)0489(PS)
5. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa waith cynllunio wrth gefn y mae'r Gweinidog wedi'i wneud i helpu cynghorau i baratoi ar gyfer unrhyw bwysau annisgwyl o ran cost ar gyllidebau awdurdodau lleol? OAQ(4)0491(PS)
6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu bygwth gan doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol? OAQ(4)0483(PS)
7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gefnogaeth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog yng Nghymru? OAQ(4)0487(PS)
8. Elin Jones (Ceredigion):Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â chontractau ar gyfer gwasanaethau crwner? OAQ(4)0481(PS)W
9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0480(PS)
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynigion Llywodraeth Cymru i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0495(PS)
11. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru? OAQ(4)0490(PS)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gwasanaeth tân yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0494(PS)
13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfrifoldebau gorfodi llywodraeth leol yng nghanolbarth Cymru? OAQ(4)0486(PS)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal ynghylch colegau diogel yng Nghymru? OAQ(4)0493(PS)W
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)0479(PS)